26.06.26 - 04.07.26

Sponsors

Many thanks to all our sponsors. Your contribution is central to the success of the Festival.

Welsh only...

Diolch yn fawr i’n noddwyr. Mae eich cyfraniad yn ganolog i lwyddiant yr ŵyl.

Eleni bydd Gŵyl y Felinheli yn cael ei chynnal 27.06.25 - 05.07.25.

Mae gwaith Gŵyl y Felinheli yn amhosibl oni bai am gyfraniad hael ein noddwyr.

Mae pwyllgor yr ŵyl eisoes wedi bod yn brysur yn trefnu 9 diwrnod o weithgareddau yn haf 2025 ar gyfer pobol yr ardal. Rydym yn mawr obeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth i sicrhau y bydd cyfraniad arbennig yr ŵyl i fywyd y pentref yn parhau.

Mae gan arlwy Gŵyl y Felinheli rywbeth at ddant pawb, ac mae’n rhan hollbwysig o galendr blynyddol nifer o’ch cwsmeriaid.

Beth allwn ni ei gynnig?

  • Hysbys arbennig yn rhaglen yr ŵyl (sy'n mynd i dai'r pentref)
  • Adran arbennig ar ein gwefan yn hysbysebu ein noddwyr sy’n cynnwys dolen at eich gwefan.
  • Neges arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol yn yr wythnosau’n arwain at yr ŵyl yn rhoi hysbys.

Gallwch noddi’r ŵyl drwy:

Hoffai pwyllgor yr ŵyl ddiolch o waelod calon ichi am eich cefnogaeth, gan edrych ymlaen yn fawr at dderbyn ymateb.