26.06.26 - 04.07.26

Gwedd Newydd, Digwyddiadau Newydd - Gŵyl y Felinheli 2026

Hafan > Newyddion > Gwedd Newydd, Digwyddiadau Newydd - Gŵyl y Felinheli 2026

Gŵyl y Felinheli yn dychwelyd yn 2026

Mae Gŵyl y Felinheli yn rhan annatod o fywyd y pentref ers degawdau, ac mae’n parhau i esblygu bob blwyddyn. 
 
Gyda gwefan newydd sbon, brand newydd, lliwgar, ac ychwanegiadau cyffrous i'r rhaglen, mae’r ŵyl eleni yn argoeli i fod yn wyth niwrnod bywiog rhwng 26 Mehefin – 4 Gorffennaf.
 
Ymhlith y digwyddiadau newydd ar gyfer 2026 mae Felinhel-ye-ha! — noson gowbois fywiog gyda band byw, dawnsio llinell, a gwisg ffansi. Bydd yr ŵyl hefyd yn cyflwyno Bygi Heini am y tro cyntaf, sesiwn ffitrwydd ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n ymarfer gyda'u babis mewn bygis.
 
Bydd sesiwn stori a chân i fabanod a neiniau a theidiau am y tro cyntaf hefyd, a bydd y Ffair Cynnyrch Lleol yn dychwelyd am y tro cyntaf ers blynyddoedd - yn dathlu bwyd lleol, crefftau a mwy.

Wrth siarad ar ran yr ŵyl, dywedodd Osian Owen fod y newidiadau’n adlewyrchu awydd yr ŵyl i gadw pethau’n ffres:

“Mae Gŵyl y Felinheli wastad wedi symud efo’r oes. Bob blwyddyn rydan ni’n trio dod â syniadau newydd tra’n cadw’r ysbryd cymunedol sydd wrth galon yr ŵyl. Mae’r flwyddyn yma’n teimlo’n arbennig o gyffrous oherwydd ein bod wedi rhoi gwedd newydd i’n rhaglen, yn ogsytal â brand yr ŵyl ei hun.”

Mae logo newydd yr ŵyl wedi tyfu’n naturiol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Digwyddodd y logo newydd ar ddamwain,” meddai Osian. “Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaethon ni greu llythrennau mawr, lliwgar, yn debyg i arwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, y math o beth sydd wedi dod yn boblogaidd mewn gwyliau yn ddiweddar. Heb fwriadu, fe ddatblygodd y llythrennau i fod yn logo answyddogol sy’n dal ysbryd Gŵyl y Felinheli yn berffaith — lliwgar ac ifanc!”

Diolchodd Osian hefyd i Delwedd am ddylunio gwefan newydd yr ŵyl ac am eu cefnogaeth hirdymor dros nifer o flynyddoedd.

“Hoffem ddiolch o galon i Delwedd am y gwaith gwych maen nhw wedi’i wneud wrth ddatblygu ein gwefan newydd. Mae ein perthynas â Delwedd yn mynd yn ôl yn bell. Sefydlwyd y cwmni ym 1998 gan Mike Roberts, yn wreiddiol o’r Felinheli, sy’n dal i gael ei gofio’n annwyl am ei ymrwymiad i’r gymuned leol.
 
“Dros y blynyddoedd, mae Delwedd wedi cefnogi ystod eang o sefydliadau a grwpiau gwirfoddol, gan gynnwys Gŵyl y Felinheli. Ers dros ddau ddegawd maen nhw wedi dogfennu’r ŵyl trwy eu ffotograffau, ac wedi cefnogi ein presenoldeb ar-lein trwy ein gwefan.
 
“Yn dilyn marwolaeth Mike yn 2017, mae’r busnes wedi parhau i ffynnu dan arweiniad ei blant, Aled a Ceri, ac rydan ni’n hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth barhaus a’u gwaith gwych.”

Roedd trefnwyr yr ŵyl hefyd eisiau diolch i bobl Y Felinheli am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth barhaus.

“Mae’r gefnogaeth gan y pentref yn golygu popeth i ni. Mae Gŵyl y Felinheli wedi bod yn ŵyl gymunedol erioed, ac fedrwn ni ddim aros i groesawu pawb yn ôl eto’r haf yma.”

Unwaith eto, bydd yr ŵyl yn cynnig wyth niwrnod o weithgareddau a digwyddiadau i'r teulu cyfan.

Am y rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalen digwyddiadau.

Cynhelir Gŵyl y Felinheli 2026 rhwng 26 Mehefin 2026 – 4 Gorffennaf 2026.