26.06.26 - 04.07.26

Trochfa Sain (Gong Bath)

Hafan > Digwyddiadau > Trochfa Sain (Gong Bath)

28.06.26, 7:00yh

Sesiwn fel rhan o Ŵyl y Felinheli. Mae 'trochfa sain', neu gong bath yn sesiwn therapi myfyriol lle byddwch yn gorwedd i lawr i "ymdrochi" yn sŵn dirgryniadau gongs. Mae'n brofiad sy'n tyfu mewn poblogrwydd!

Yng nghwmni Leisa, sylfaenydd Gong Cymru, bydd y sesiwn yn rhedeg rhwng 7yh a 8.30yh ar nos Sul 28 Mehefin ym Marcî Gŵyl y Felinheli. Mae niferoedd yn gyfyngedig, ac mae tocynnau'n £15. Oedolion yn unig.

Lluniau o'r noson

poster Trochfa Sain (Gong Bath)